DATGANIAD I’R WASG

 

Pryderon ynghylch cymdeithasau tai yn arallgyfeirio

 

Mae pryderon wedi'u mynegi ynghylch sut y mae rhai cymdeithasau tai yng Nghymru yn arallgyfeirio eu busnesau.

 

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol wedi bod yn edrych ar sut y mae cymdeithasau tai yn cael eu rheoleiddio yng Nghymru.

 

Mae'r sector yn darparu 158,000 o gartrefi ar draws y wlad, gan ddarparu tai i thua deg y cant o'r boblogaeth.

 

Cafodd y Pwyllgor wybod sut y mae rhai sefydliadau bellach yn buddsoddi mewn llety myfyrwyr a nyrsys, gwasanaethau cynnal a chadw annibynnol, neu gyfleoedd manwerthu a chyfleoedd masnachol eraill, y mae pob un ohonynt y tu allan i'w pwrpas craidd o ddarparu tai cymdeithasol.

 

Roedd Aelodau'r Cynulliad yn cydnabod y manteision posibl o arallgyfeirio, gan nodi y gall gwargedau a gynhyrchir yn sgil gweithgareddau masnachol gael eu hailfuddsoddi yn y gwaith o ddarparu tai a gwasanaethau newydd ar gyfer tenantiaid. Ond maent yn rhybuddio am beryglon difrifol os nad yw'r gweithgareddau hyn yn cael eu rheoli'n effeithiol.

 

Mae'r Pwyllgor am weld mwy o eglurder o ran sut y mae Llywodraeth Cymru yn goruchwylio arallgyfeirio, yn arbennig pan gaiff ei wneud drwy is-gwmni landlord cymdeithasol heb ei gofrestru.

 

Mae hefyd am weld mwy o dryloywder yn y sector, gan gynnwys rhoi pŵer a gwybodaeth i denantiaid graffu'n briodol ar beth y mae eu cymdeithas tai yn ei wneud drostynt.

 

Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: "Yn gyffredinol mae llywodraethu a rheoleiddio yn y sector yn gweithio'n ddigon da i gymdeithasau tai gael mwy o ymreolaeth, ond yn gyfnewid credwn y dylent wneud mwy i fod yn agored ac yn dryloyw wrth wneud penderfyniadau.

 

"Fodd bynnag, rydym yn pryderu ynghylch sut y mae rhai cymdeithasau tai yn arallgyfeirio i ffwrdd oddi wrth eu pwrpas craidd.

 

"Wrth gydnabod y manteision y gellir eu cael o ran buddsoddiad pellach mewn tai a gwasanaethau ar gyfer tenantiaid, credwn y dylid cael mwy o eglurder o ran sut y mae'r gweithgarwch hwn yn cael ei oruchwylio gan Lywodraeth Cymru."

 

Nodiadau i olygyddion

 

I gael rhagor o wybodaeth, neu i wneud cais am gyfweliadau, lluniau neu gyfleoedd ffilmio, cysylltwch â gwasanaeth cyswllt â'r cyfryngau y Cynulliad Cenedlaethol ar 0300 200 7487, neu anfonwch neges e-bost at newyddion@cynulliad.cymru.